pic

Gafael Llaw yn rhoi ‘cefnogaeth hanfodol’ yn ystod y pandemig

Gafael Llaw

Fe wnaeth cefnogaeth ariannol a ddarparwyd gan Gafael Llaw i Ysbyty Plant Alder Hey ar ddechrau’r pandemig alluogi cefnogaeth hanfodol barhau i gael ei ddarparu i gleifion canser yng ngogledd Cymru.

Darparwyd pymtheg gliniadur wedi eu cyllido gan Gafael Llaw i’r tîm Oncoleg i’w helpu i weithio o bell ac yn hyblyg yn ystod y pandemig, gan gadw cleifion a staff yn ddiogel. Mae hyn wedi galluogi plant o ogledd Cymru barhau i dderbyn gofal yn saff o adref, heb orfod teithio nôl a mlaen i’r ysbyty. Gan gynnig gwasanaeth a chefnogaeth wahanol, drwy’r defnydd o dechnoleg.

Fel pob ysbyty ledled y wlad, mae Ysbyty Plant Alder Hey wedi gorfod gweithredu nifer o fesurau newydd i reoli heintiau i gadw cleifion yn ddiogel. Gyda llawer o’r cleifion oncoleg yn agored i haint, roedd sicrhau eu gofal a diogelwch yn bwysicach nag erioed.

Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan Gafael Llaw yn hanfodol, gan alluogi’r ysbyty i roi yr offer allweddol iddynt cyn gynted â phosib oedd yn caniatáu iddynt weithio o bell ac yn hyblyg.

Dywedodd Fiona Ashcroft o Elusen Plant Alder Hey: “Mae’r gliniaduron a ddarparwyd gan Gafael Llaw galluogi i’n staff weithio o adref mewn cyfnodau lle’r oedd angen iddyn nhw wneud hynny.

“Mae’r offer wedi bod yn gwbl hanfodol mewn caniatáu i dimau gyfathrebu’n effeithlon a darparu’r gofal gorau posib i gleifion.

“Hoffwn ddiolch i Fwrdd Gafael Llaw a’u holl gefnogwyr yng ngogledd Cymru am eu cymorth hael. Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd wrth i’n staff a’n cleifion addasu i reolau a normau newydd, a heb gymorth cefnogwyr anhygoel fel hyn ni fyddem yn gallu addasu i ddarparu gofal o ansawdd uchel y mae ein cleifion ifanc yn ei haeddu.”

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Mae’n galonogol iawn derbyn adborth mor gadarnhaol gan staff Alder Hey, a chlywed am yr ystod o fuddion mae’r glaniaduron wedi’u rhoi i staff a chleifion. Mae’n fy ngwneud yn hynod o falch o fod yn rhan o stori a gwaith Gafael Llaw.

“Mae pobl leol anhygoel wedi cario mlaen i gasglu arian i ni hyd yn oed yn ystod yr amseroedd anodd hyn. O redeg Marathon Rhithiol Llundain i ddylunio a gwneud masgiau wyneb i’w gwerthu er elw i Gafael Llaw. Mae eu hymdrechion wedi bod yn wych a byddwn yn parhau i ddefnyddio’r arian yma i wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau i blant gyda chanser sy’n byw yng ngogledd Cymru.”