pic

Triniaeth leol i blant diolch i beiriant anadlu newydd

Gafael Llaw

O ganlyniad i gefnogaeth hael a pharhaus Gafael Llaw mae peiriant anadlu newydd gwerth dros £6000 rŵan ar gael i gleifion ifanc Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd.

Roedd Gafael Llaw yn awyddus i gynnig cefnogaeth ychwanegol i’r ward yn ystod pandemig COVID-19. Bydd y peiriant yn allweddol bwysig i waith y ward, gan helpu babis a phlant ifanc sy’n dod i’r ysbyty gyda phroblemau anadlu.

Dywedodd Jo Douglas, Rheolwr Gwasanaeth Pediatreg a Newydd enedigol y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: Unwaith eto, mae ein diolch yn enfawr i Gafael Llaw am y gefnogaeth maent yn ei roi i’n Huned Pediatreg yn Ysbyty Gwynedd.

“Ar ddechrau cyfnod pandemig COVID- 19 gofynnodd aelodau Gafael Llaw sut y gallent helpu ni ofalu am blant yn ystod y cyfnod hwn, mae gallu cynnig cefnogaeth resbiradol i gleifion gyda’r firws yn amlwg yn allweddol bwysig. Rydym yn gallu cynnig cefnogaeth fel hyn, fodd bynnag oherwydd y sefyllfa daeth i’r amlwg bod angen mwy o beiriannau i allu cynnig y lefel o ofal sydd ei angen.

“Mae’r peiriant erbyn hyn ar yr uned ac mae hyfforddiant yn cael ei roi i’n staff drwy Skype. Bydd hyn yn galluogi plant i aros yn Ysbyty Gwynedd i dderbyn triniaeth yn agosach i adref yn ystod y cyfnod anodd hwn, yn enwedig gan fod rheolau ymweld â chleifion yn gyfyngedig ar hyn o bryd.

“Mae’r staff i gyd yn yr Uned Blant yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth barhaus Gafael Llaw.”

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Dwi’n falch iawn bod Gafael Llaw wedi prynu’r peiriant yma i’r ward, yn enwedig mewn cyfnod mor heriol. Bydd y peiriant yn galluogi staff i gynnig gwasanaeth newydd ar y ward, yn lleihau’r pwysau ar staff ac o fudd mawr i’r plant a’r teuluoedd fydd ddim yn gorfod teithio mor bell i dderbyn y driniaeth.

“Bydd y peiriant yn galluogi plant i gael gofal y lleol. Roedd straeon am deuluoedd yn y gorffennol yn gorfod symud i ysbytai dros y ffin i dderbyn triniaeth, sy’n rhoi pwysau anferthol ar deuluoedd a chymunedau mewn amser sy’n ddigon anodd yn barod. Ein nod ni fel elusen yw gwella’r ddarpariaeth ac adnoddau yn lleol, a dwi mor falch bod y peiriant yma wirioneddol yn helpu i gyflawni’r nod.”