pic

Rhedeg ras rithiol Llundain i godi arian i Gafael Llaw

Gafael Llaw

Nôl ym mis Hydref, cwblhaodd Karen Rees Roberts o Bwllheli farathon rhithiol Llundain, gan gasglu dros £4000 i ddwy achos teilwng: Gafael Llaw a Scope.

Mae Karen wedi bod yn casglu arian i elusennau ers blynyddoedd. Roedd hi wedi bod yn ymarfer ar gyfer Marathon Llundain oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Ebrill. Fel nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, cafodd ei ohirio oherwydd y pandemig coronafirws, gyda’r digwyddiad rhithiol yn cael ei gynnal ar 4 Hydref.

Ar un o ddiwrnodau gwlypaf a mwyaf gwyntog 2020, fe wnaeth Karen a’i theulu fentro allan i’r tywydd mawr, gan gwblhau’r llwybr o 26.2 milltir o amgylch Pen Llŷn.

Er gwaetha’r tywydd, mi gafodd Karen ddiwrnod da: “Roeddwn i’n siomedig mod i heb allu rhedeg Marathon Llundain ym mis Ebrill. Ond roedd y marathon rhithiol yn brofiad newydd a gwahanol i mi ac mi ges i ddiwrnod gwych. Roedd hi’n braf cael fy nheulu yn cymryd rhan gyda mi, a chael eu cwmni nhw ar hyd y daith. Mi gawsom ddiwrnod da iawn.

“Er bod y pandemig wedi effeithio ychydig ar fy nghynlluniau i godi arian, er enghraifft drwy orfod canslo rhai digwyddiadau roeddwn wedi trefnu ar gyfer mis Mawrth, dwi’n wirioneddol falch o’r swm o arian sydd wedi cael ei gasglu. Mae’r gefnogaeth ges i gan fy nheulu, ffrindiau, cwsmeriaid a chymuned Pwllheli wedi bod yn wych, a dwi wirioneddol yn gwerthfawrogi caredigrwydd a haelioni pobl. Diolch am fy nghefnogi i a dwy elusen bwysig. Dwi’n gobeithio ceisio am le eto yn y dyfodol i redeg Marathon Llundain yn Llundain!”

Roedd Karen yn awyddus i gasglu arian ar gyfer elusen leol, yn ogystal â Scope. Clywodd am waith yr elusen Gafael Llaw gan ffrind.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd yr elusen: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Karen ac i bobl Pwllheli am eu cefnogaeth. Fel elusen, rydym yn cefnogi plant a theuluoedd sy’n byw yng Ngwynedd ac Ynys Môn, felly mae’n wych gweld Gafael Llaw yn tyfu ac yn dod yn adnabyddus mewn rhannau eraill o’r sir.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i’r sector, gyda nifer o ddigwyddiadau i gasglu arian yn cael eu canslo. Ond diolch i bobl fel Karen, rydym wedi gallu parhau i gefnogi Ysbyty Gwynedd ac Alder Hey mewn cyfnod mor bwysig. Rydym wedi darparu Cyfarpar Diogelu Personol i staff, anrhegion i gleifion ac wedi ariannu 15 gliniadur newydd sydd wedi galluogi staff Alder Hey i weithio o adref, gan barhau i ofalu am deuluoedd o ogledd Cymru drwy gydol y pandemig.”