pic

Adnoddau newydd Ward Dewi yn trawsnewid bywydau

Gafael Llaw

Mae cwpwl o fisoedd ers i’r ystafell synhwyraidd newydd agor ar Ward y Plant, Ysbyty Gwynedd, diolch i gyfraniad o £120,000 gan Gafael Llaw.

Yn ogystal â chreu ystafell synhwyrau ar Ward Minffordd cafodd y cyfleusterau ystafell ymolchi ar Ward Dewi eu huwchraddio i fodloni anghenion plant sydd ag anableddau.

Mae’r adnoddau newydd yn barod yn cael effaith anhygoel ar fywydau’r plant sy’n treulio amser ar y ward.

Cysylltodd Nerys gyda ni i ddiolch ac i rannu stori Bedwyr, ei mab.

Mae Bedwyr yn 4 oed ac mae ganddo gyflwr prin Coffin-Siris Syndrome. Mae ganddo anghenion dysgu dwys, nid yw’n gallu siarad na deall iaith ac mae llyncu yn broblem iddo. Oherwydd cymhlethdod cyflwr Bedwyr mae o’n treulio llawer o amser yn Ward Dewi ac yn ôl Nerys mae’r cyfleusterau newydd rŵan yn gwneud yr ymweliadau hyn ychydig yn haws.

Dywedodd Nerys: “Mae’r ystafell newydd yn hyfryd braf. Mae hi mor dawel yno o ystyried bod hi’n ystafell ar ward plant. Mae’n le sy’n cael rhywun i ffwrdd o’r synau a phrysurdeb y ward. Roedd Bedwyr wrth ei fodd yn treulio amser yn yr ystafell ac fe wnaeth hyd yn oed gyffwrdd ffon golau! Mae hyn yn gam mawr yn natblygiad Bedwyr gan nad yw fel arfer yn cyffwrdd na chwarae efo teganau. Nes i archebu un yn syth ac mae ffon olau rŵan yn ei focs teganau adref a Bedwyr yn gallu chwarae efo fo yn ddyddiol.

“Mae’r adnoddau yn wych a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gael adnoddau mor anhygoel ar y ward. Mae ein plant yn treulio llawer o amser yn yr ysbyty ac mae cael adnoddau fel hyn wirioneddol yn help i’r holl deulu. Mae eich ymroddiad, gwaith caled ac ymdrechion anhygoel i gasglu arian yn caniatáu i’n plant gael chwerthin a gwenu!”

Dyma pam ac i bwy mae’r arian sy’n cael ei gasglu yn mynd, mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth!

image image image