pic

Haf llwyddiannus

Gafael Llaw

Unwaith eto eleni, mae elusen lleol Gafael Llaw a chefnogwyr yr elusen wedi bod yn brysur yn casglu arian dros yr haf.

Cynhaliwyd taith gerdded lwyddiannus i ben Yr Wyddfa ar ddydd Sadwrn braf ym mis Gorffennaf. Daeth nifer o bobl ar y daith i ben y copa i ddangos eu cefnogaeth i’r elusen, a drwy ffurflenni noddi, bwcedi arian a gwerthu bwyd yng nghaffi Hanner Ffordd casglwyd dros £1,000.

Mae nifer o bobl annibynnol hefyd wedi cefnogi’r elusen dros yr haf, boed hynny drwy ymgymryd â sialensiau neu drwy drefnu digwyddiadau.

Gafael Llaw yw elusen ddewisol Linda Thomas, Capten golff merched Caernarfon eleni. Trefnwyd ocsiwn addewidion ganddi hi ym mis Mehefin, gyda’r arwerthwr Morgan Evans.

Dywedodd Linda:

“Roedd hi’n noson lwyddiannus iawn, a dw i’n hynod ddiolchgar i bawb wnaeth gyfrannu, helpu a chefnogi’r digwyddiad mewn unrhyw ffordd. Casglwyd £3,000 ar gyfer yr elusen lleol, elusen sy’n agos iawn i fy nghalon.”

— Linda Thomas, Capten golff merched Caernarfon

Ym mis Mehefin ymgymerodd Alun Lloyd Williams a chriw o ffrindiau â’r sialens o gerdded 15 o fynyddoedd Cymru sydd dros 3000 troedfedd mewn 24 awr. Roedd y daith yn 30 milltir o hyd ac yn gael ei gyfri’n un o’r sialensiau cerdded anoddaf ym Mhrydain. Llwyddodd Alun i gasglu £540 ar gyfer yr elusen.

Dywedodd Alun:

“Dyma un o’r pethau anoddaf i mi wneud eirioed. Dewisais Gafael llaw am ei fod yn elusen lleol gwerth chweil. Dwi’n cofio gweld y reid feics Tour de Cymru tua blwyddyn yn ôl, a meddwl adeg hynny y buaswn i’n licio gneud rhywbeth.”

— Alun Lloyd Williams

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd elusen Gafael Llaw:

“Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi Gafael Llaw dros yr haf. Mae cefnogaeth a ymrwymiad bobl leol i’r elusen yn anhygoel ac yn allweddol. Bydd yr holl arian a gasglwyd dros yr haf yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau a gwasanaeth plant a phobl ifanc leol sydd efo cancr.”

— Iwan Trefor Jones, Cadeirydd elusen Gafael Llaw