pic

Elusen y flwyddyn Clwb pêl-droed Caernarfon

Gafael Llaw

Mae Clwb pêl-droed Caernarfon yn falch iawn o gyhoeddi eu elusen swyddogol ar gyfer 2017, sef elusen Gafael Llaw.

Mae Cadeirydd y clwb Richard Morris Jones yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r elusen gafodd ei sefydlu yn 2013 i gefnogi plant a phobl ifanc o Wynedd ac Ynys Môn gyda cancr.

Dywedodd: “Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda Gafael Llaw, ac yn gobeithio gweithio’n agos gyda nhw dros y flwyddyn i gefnogi’r gwaith gwych a hynod o bwysig sy’n cael i gyflawni ganddynt. Rydym yn falch iawn o’r cyhoeddiad yma ac yn gobeithio gallwn helpu Gafael Llaw i wneud gwahaniaeth.”

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Rydym wrth ein boddau bod Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi ein dewis ni fel eu elusen lleol. Fel elusen sydd wedi cael ei sefydlu a lleoli yn y dref, mae’n wych cael cefnogaeth fel hyn yn lleol.

“Mae’r holl arian sy’n cael ei gasglu gan Gafael Llaw ac yn enw Gafael Llaw yn mynd yn uniongyrchol at wella adnoddau a gwasanaethau i blant Gwynedd a Môn sydd efo cancr.