pic

Gafael Llaw yn ariannu ystafell newydd yn Ysbyty Alder Hey

Gafael Llaw

Mae Gafael Llaw yn falch o fod wedi ariannu Ystafell Tynnu Sylw 4D newydd yn ysbyty plant Alder Hey, Lerpwl.

Cafodd 45K ei roi gan Gafael Llaw i Elusen Ysbyty Plant Alder Hey gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i greu’r ystafell arbennig sy’n tynnu sylw’r plant pan yn derbyn triniaeth ar y ward oncoleg.

Dywedodd Prif Swyddog elusen plant Alder Hey, Fiona Ashcroft:

“Hoffwn ddiolch i bawb yn Gafael Llaw am eu cefnogaeth anhygoel i’n cleifion oncoleg ifanc, yn cynnwys cleifion sydd o ogledd Cymru. Rydym yn trin dros 7000 o gleifion oncoleg bob blwyddyn, felly mae’n bwysig bod ein ystafelloedd triniaeth yn rhoi profiad mor gadarnhaol â phosib i’n cleifion.

“Diolch i’r cyfraniad hwn mae gan ein plant a phobl ifanc ystafell tynnu sylw 4D, sydd yn ofod sy’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau i dynnu sylw oddi ar y driniaeth, gan gynnwys taflunydd LED a lliwiau a synau y gellir eu teilwra i ofynion yr unigolyn. Diolch yn fawr i bawb yn Gafael Llaw am eu cefnogaeth anhygoel a pharhaus.”

Sefydlwyd Gafael Llaw yn 2013 gan griw o ffrindiau o ardal Caernarfon i gefnogi plant a phobl ifanc o Wynedd a Môn sydd efo cancr. Mae’r elusen yn darparu cefnogaeth i Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Plant Alder Hey ac elusen Young Lives vs Cancer (CLIC Sargent gynt).

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Mae’n wych gweld yr ystafell yma wedi’i gwblhau a chlywed yr adborth positif gan deuluoedd a staff sy’n gweld y gwahaniaeth mae o’n ei wneud i’r cleifion ifanc dewr. Rydym yn falch iawn o’n perthynas gyda Alder Hey, ysbyty ble mae gymaint o gleifion o ogledd Cymru yn derbyn triniaeth.

“Yn dilyn y pandemic, mae’r elusen wedi mynd o nerth i nerth diolch i’n cefnogwyr anhygoel sy’n parhau i gasglu arian i Gafael Llaw. Hoffwn dalu teyrnged a diolch i bob un o’r unigolion yma am eu hymdrechion gwych. Mae’r haelioni a’r gefnogaeth wir yn gwneud gwahaniaeth i wella cyfleusterau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc o Wynedd ac Ynys Môn.”

Bydd Gafael Llaw yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni, 10 mlynedd ers sefydlu’r elusen yn 2013. Dros y ddeng mlynedd diweddaf mae’r elusen a’i chefnogwyr wedi casglu dros £400K i helpu teuluoedd lleol. Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio i greu ardal chwarae newydd yn Ward Dewi, ystafelloedd oncoleg newydd yn ysbyty Alder Hey, cyllido tripiau a dyddiau hwyl i blant a’u teuluoedd, a nifer o brosiectau eraill.