pic

Gafael Llaw yn rhoi help llaw i Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd

Gafael Llaw

Talodd meddygon a nyrsys ar Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd deyrnged i Gafael Llaw, elusen leol, mewn digwyddiad o ddiolchgarwch arbennig ar y ward.

Ers ei sefydlu ym Mehefin 2013, mae Gafael Llaw wedi codi £150,000 i gefnogi plant lleol â chanser. Yn ogystal â chefnogi cyfleusterau newydd a llyfrgell Gymraeg yn Ysbyty Alder Hey, mae’r elusen wedi cyfrannu £20,000 at ariannu gweithgareddau a digwyddiadau a drefnwyd i deuluoedd a effeithiwyd gan ganser plentyndod.

Mae Gafael Llaw hefyd wedi rhoi dros £30,000 i gefnogi ystafell arbennig ar y ward i blant sy’n byw a chanser, cyfarpar meddygol newydd a gwaith celf ar y ward, a’r man chwarae awyr agored sy’n boblogaidd iawn. Mae’r grwp nawr yn gweithio’n agos gyda staff nyrsio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ystafell synhwyredd ar y ward.

Meddai Jo Douglas, Rheolwr Gwasanaethau Plant: “Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus pwyllgor Gafael Llaw a’r niferoedd o gefnogwyr yr elusen. Mae’r arian a godir gan y grwp hwn, ac eraill, yn gwneud gwir wahaniaeth i’r plant ar y ward.

“Yn sgil eu gwaith caled, yn trefnu digwyddiadau codi arian ac annog pwyllgorau lleol i fod yn rhan o’u hymdrechion codi arian, mae Gafael Llaw wedi helpu i lonni’r ward, mwyafu’r gofal rydym yn gallu darparu a rhoi gwên fawr ar wynebau ein cleifion. Yn wir, ni allwn ddiolch iddynt ddigon.”

Ychwanegodd Meinir Williams, Cyfarwyddwr Ysbyty yn Ysbyty Gwynedd: “Bydd cyfraniadau Gafael Llaw at ein gwasanaethau plant yn parhau i wneud gwahaniaeth am flynyddoedd i ddod. Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth sydd gennym gyda Gafael Llaw ac yn diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r elusen ac am y cymorth a roddwyd.

“Mae gwelliannau cyffrous yn cael eu cynllunio ar y ward nawr, ac rydym wrth eu bodd bydd Gafael Llaw yn cefnogi’r datblygiadau pwysig hyn.”

Esboniodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw pan bod yr elusen wedi bod mor llwyddiannus wrth godi arian.

Meddai: “Mae’r gymuned leol wedi bod yn gefnogol o’r dechrau un, oherwydd maen nhw’n gwybod bod yr holl arian a godir gan Gafael Llaw yn mynd i gefnogi teuluoedd lleol. GafaelLlaw1

“Mae’r pwyllgor wedi bod yn ymroddedig, yn treulio oriau yn trefnu digwyddiadau, gan gynnwys taith feiciau Tour de Cymru o gwmpas Cymru, heriau golff a chriced a rasys am hwyl. Mae eu hymroddiad a phenderfyniad wedi ysbrydoli eraill i wirfoddoli, busnesau i noddi digwyddiadau ac ysgolion a grwpiau cymunedol i drefnu eu digwyddiadau a gweithgareddau eu hunain.

“Ar ran pawb ar bwyllgor Gafael Llaw, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi’n cefnogi ac a fydd yn parhau i wneud hyn. Gwelsom unwaith eto yn y digwyddiad diolchgarwch cymaint o wahaniaeth mae cyfraniadau i Gafael Llaw yn eu gwneud ac rydym yn fwy angerddol eto i wneud gwahaniaeth i blant â chanser yn yr ardal hon.”