pic

Heriau enfawr Paul a Paul

Gafael Llaw

Diolch o waelod calon i Paul Mark Williams a Paul Ellis Owen am eu hymdrechion diweddar i godi arian ar ein rhan.

Casglodd Paul Williams £2,052 i Gafael Llaw drwy gyflawni her triathlon oedd yn ddwy filltir o nofio, 76 milltir ar feic gan orffen gyda taith 10 milltir i gopa’r Wyddfa.

Dywedodd Paul: “Dechreuais y sialens am 7:15am a gorffen am 8:15pm. Roedd o’n 13 awr anoddaf fy mywyd! Diolch yn fawr i bob person sydd wedi fy noddi, dwi wrth fy modd efo’r swm dwi wedi gasglu a gobeithio fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn.”

Her y 3 copa oedd yn wynebu Paul Owen, ond yn hytrach na mynd mewn car o un mynydd i’r llall roedd Paul yn teithio ar ei feic. Camp a hanner! Casglodd Paul dros £1000 ar gyfer Gafael Llaw.

Eglurodd Paul pam fod o wedi dewis Gafael Llaw: “Roeddwn wedi clywed am waith da yr elusen ers dipyn ac yn gwybod pa mor dda ydi’r gwaith sy’n cael ei wneud gennych yn lleol. Mae cancr wedi effeithio ar llawer o bobl yn fy nheulu, ac elusen sy’n helpu plant yn rywbeth agos at fy nghalon.”

Wrth ddiolch i’r ddau am eu hymdrechion, dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Rydym yn lwcus iawn fel elusen o bobl fel Paul a Paul sydd yn dewis casglu arian ar ein rhan. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu hymdrechion ac yn gwerthfawrogi be mae’r ddau wedi wneud.”

image image image
image image image