pic

Gafael Llaw yw elusen y flwyddyn Encôr

Gafael Llaw

Mae côr lleol o ardal Bangor wedi dewis Gafael Llaw fel un o’r elusennau y byddant yn casglu arian iddi am y flwyddyn, yn ogystal ag elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae’r criw o 55 aelod yn ymarfer yn wythnosol dan arweiniad Kiefer Jones, yng Nghapel Berea Newydd, Bangor bob nos Fercher. Yn gôr pedwar llais maent yn mwynhau canu ystod eang o ganeuon i godi’r ysbryd, o Harbwr Diogel i Bohemian Rhapsody. Mae croeso cynnes i aelodau newydd, rhaid cofrestru o flaen llaw drwy e-bost: encor.wyn@gmail.com

Wrth holi’r aelodau pam eu bod wedi penderfynu cefnogi Gafael Llaw, dywedodd un aelod:

“Gall y rhai ohonom sydd wedi bod ar y daith ganser gydymdeimlo â chyd-gleifion sy’n oedolion, dychmygwch fod yn blentyn ar yr un siwrnai ddryslyd a brawychus, mae bron yn amhosibl esbonio. Mae unrhyw beth sy’n helpu’r broses ac yn gallu helpu’r teuluoedd yn beth da. A gwn y bydd cyd-ddioddefwyr yn cytuno, mae pob ceiniog yn helpu.”

Ychwanegodd Ruth Wyn Williams: “Mae’r siwrne canser yn daith mae llawer o aelodau’r côr yn gyfarwydd hefo, bod yn brofiad unigol, teuluol neu adnabod cyfeillion. Felly mae’n fraint i’r côr drwy fwynhau canu, gefnogi elusen sy’n agos iawn at galonnau’r holl aelodau ac sy’n weithgar yn lleol a phlant a’n pobl ifanc a’u teuluoedd.”