pic

Cynlluniau ar gyfer ystafell synhwyraidd newydd a gwell cyfleusterau ystafell ymolchi ar gyfer Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd

Gafael Llaw

Mae gwaith ar fin dechrau ar Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r cleifion ieuengaf yn yr ysbyty.

Gwnaed y prosiect £154,000 yn bosibl drwy’r elusen leol yng Nghaernarfon, Gafael Llaw, sydd wedi rhoi £85,000 yn hael iawn tuag at y datblygiad.

Bydd y gwaith yn cynnwys gwella’r cyfleusterau ystafell ymolchi ar Ward Dewi i gwrdd ag anghenion plant gydag anableddau.

Bydd y gwelliannau hefyd yn creu ystafell synhwyraidd newydd ar Ward Minffordd a fydd yn darparu cefnogaeth therapiwtig i blant yn ystod eu harhosiad.

Meddai Jo Douglas, Rheolwr Gwasanaethau Clinigol Gwasanaethau Pediatreg a Newydd-anedig: “Rydym wir yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn dechrau ar Ward y Plant a fydd yn gwella’r amgylchedd a chyfleusterau sydd ar gael i’n cleifion.

“Hoffem ddiolch i Gafael Llaw a’r gymuned am eu rhoddion hael sydd wedi’n galluogi i gael gweledigaeth o sut rydym yn dymuno datblygu’r ward i ofalu am blant yng ngogledd Cymru.

“Mae’r arian hwn wedi sicrhau ein bod yn gallu creu cyfleusterau ystafell ymolchi a fydd yn addas ar gyfer anghenion ein plant gydag anableddau a fydd yn helpu i gynnal eu hurddas.

“Bydd yr ystafell synhwyraidd o fudd mawr i’n cleifion, yn enwedig y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl a phlant sydd wedi colli synhwyrau.

“Yn naturiol, mae llawer o blant yn nerfus ac ofnus cyn iddynt gael llawdriniaethau, felly mae bod ag ystafell synhwyraidd ar y ward yn mynd i fod o gymorth i dynnu eu sylw yn ystod yr amser hwn a lleihau unrhyw bryder byddant yn eu teimlo.

“Bydd y gwelliannau hyn ar y ward yn bendant yn creu amgylchedd hapusach a gwella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i’n cleifion ieuengaf.”

Ers sefydlu Gafael Llaw yn 2013, mae’r elusen wedi cefnogi sawl prosiect, gan gynnwys rhoi £20,000 i’r uned oncoleg yn Alder Hey i ariannu dwy ystafell a chyllid i sefydlu llyfrgell Gymraeg yn yr ysbyty.

Maen nhw hefyd wedi rhoi dros £30,000 i gefnogi ystafell arbennig ar y ward y plant yn Ysbyty Gwynedd i blant sy’n byw gyda chanser, cyfarpar meddygol newydd a gwaith celf ar y ward, yn ogystal â’r lle chwarae sy’n cael ei fwynhau gan lawer.

Meddai Iwan Trefor Jones Cadeirydd Gafael Llaw: “Rydym yn falch iawn o weld y gwaith gwella yn dechrau ar y ward. Rydym wedi cyfrannu £85 tuag at y prosiect hwn i adeiladu ystafell synhwyraidd a datblygu toiledau ac ystafell ymolchi hygyrch i blant a phobl ifanc ar y ward, ac rydym yn falch iawn o weld y gwaith yn mynd ymlaen.

“Codwyd yr arian hwn gan y gymuned leol, drwy ein digwyddiadau codi arian ein hunain a rhoddion hael. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wedi rhoi cymaint o amser i godi arian ac mae eu hymroddiad a phenderfyniad wedi ysbrydoli eraill i wirfoddoli, busnesau i noddi digwyddiadau a grwpiau cymunedol i godi arian ar ein rhan.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi’n cefnogi ac yn parhau i wneud hyn. Rydym hyd yn oed yn fwy angerddol nac erioed i wneud gwahaniaeth i blant gyda chanser yn y rhanbarth hwn ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth bydd yn ei wneud ar y ward.”

Bydd y prosiect yn gorffen erbyn diwedd Mawrth.

image image image