Tŷ Enfys yn agor ar ei newydd wedd
Gafael Llaw
Heddiw (27 Tachwedd 2025) agorwyd bloc llety Tŷ Enfys yn Ysbyty Gwynedd yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu a moderneiddio sylweddol, diolch i nawdd elusen leol, Gafael Llaw.
Mae Tŷ Enfys yn floc llety ar gyfer rhieni a gwarchodwyr plant sydd yn derbyn gofal a thriniaeth am gyfnod estynedig yn Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd, yn cynnwys babanod sy’n derbyn gofal yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU). Mae’n caniatáu i rieni aros yn agos i’w plentyn heb y straeon o orfod teithio nol ac ymlaen.
Ariannwyd y gwelliannau yn llawn gyda £85,000 o nawdd gan elusen Gafael Llaw, gyda’r gwaith yn cynnwys gosod lloriau newydd, peintio, dodrefn newydd i’r holl stafelloedd, cegin ac ystafell cyfleustodau newydd.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Rydym yn cyd-weithio’n agos gyda staff Ward Dewi i adnabod beth a sut y gallwn ni fel elusen wella’r cyfleusterau i blant, phobl ifanc a’r teuluoedd sy’n gorfod treulio amser yn Ward Dewi.
“Braint oedd cyllido prosiect Tŷ Enfys, adeilad ac adnodd sydd mor bwysig i deuluoedd, yn cynnig seibiant, distawrwydd a chysur mewn cyfnod anodd. Mae’n wych gweld y gwelliannau wedi’i cwblhau a chlywed adborth positif gan deuluoedd a staff am y gwahaniaeth mae o’n ei wneud ac y bydd yn ei wneud am flynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Nathan Crimes, Pennaeth Nyrsio ar gyfer Gwasanaethau Plant ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Gafael Llaw am eu cefnogaeth barhaus. Mae adnewyddu Tŷ Enfys yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd sy’n aml yn wynebu arosiadau hir a heriol tra bod eu plant yn derbyn gofal.
“Mae cael gofod cyfforddus a chroesawgar i orffwys yn rhoi’r sicrwydd a’r seibiant sydd eu hangen yn fawr ar deuluoedd, ac rydym yn gwybod faint mae’r amgylchedd newydd hwn yn ei olygu iddynt. Rydym wrth ein bodd yn gweld y cyfleuster wedi ailagor ac yn barod i gefnogi teuluoedd am flynyddoedd lawer i ddod.”
Mae Gafael Llaw yn elusen leol o Gaernarfon sy’n codi arian i gefnogi plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn gyda cancr.
Mae’r holl arian sy’n cael ei godi gan yr elusen yn mynd tuag at wella cyfleusterau ac adnoddau yn Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl ac elusen Young Lives vs Canser. Ers sefydlu’r elusen yn 2013, mae Gafael Llaw wedi casglu dros £500,000 tua’r achos. Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio i greu ardal chwarae newydd yn Ward Dewi, ystafelloedd oncoleg newydd yn ysbyty Alder Hey, cyllido tripiau a dyddiau hwyl i blant a’u teuluoedd a nifer o brosiectau eraill.
![]() |
![]() |
![]() |


