pic

Amdanom

Gafael Llaw

image image image

Amdan Yr Elusen


Elusen sydd wedi’i gofrestru gan Gomisiwn Elusennol yw Gafael Llaw a sefydlwyd yn 2013 er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn sy’n dioddef o gancr.

Criw o ffrindiau o ardal Caernarfon fu’n gyfrifol am sefydlu’r elusen. Roedd hyn yn bennaf oherwydd eu pryder bod angen gwella’r ddarpariaeth a’r gofal i blant a phobl ifanc yr ardal sydd efo cancr.

Sut mae Gafael Llaw yn codi arian?

Mae’r elusen wedi cynnal nifer o weithgareddau proffil uchel i godi arian, yn cynnwys Tour de Cymru, sef taith feicio 650 milltir o gwmpas ysbytai plant Cymru. Mae dros £350,000 wedi cael ei gasglu ers i’r elusen gael ei sefydlu.

Yn ogystal, mae nifer o gymdeithasau a chyflogwyr yr ardal yn cynnal eu gweithgareddau eu hunain i gefnogi Gafael Llaw. Mae hyn yn amlwg yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Beth sy’n digwydd i’r arian sy’n cael ei godi gan Gafael Llaw?

Mae’r holl arian sy’n cael ei godi gan Gafael Llaw yn mynd tuag at wella cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer plant efo cancr.

Mae’r elusen yn cefnogi ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, ac eisoes wedi gwneud cyfraniad ariannol sylweddol i uwchraddio ciwbiclau ar y ward a gwella cyfleusterau fel y maes chwarae ac ystafelloedd asesu.

Yn ychwanegol i hyn, mae ymrwymiad gan yr elusen i gefnogi Alder Hey yn Lerpwl. Bydd 2 ciwbiclau yn yr ysbyty newydd yn cael eu noddi gan Gafael Llaw, a bydd hyn yn golygu adnoddau o’r radd flaenaf i blant Gwynedd a Môn fydd yn aros yn yr ysbyty. Bydd pob ymdrech hefyd yn cael ei wneud gan yr elusen i sicrhau bod gwasanaeth ac adnoddau Cymraeg ar gael i’r plant.

Byddai Gafael Llaw yn falch iawn o glywed gan unrhyw unigolyn neu fudiad fyddai a diddordeb codi arian er mwyn cefnogi eu hamcanion.

Mae’r elusen yn ddiolchgar am bob cyfraniad. Mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y math cywir o adnoddau a chyfleusterau ar gael er mwyn cefnogi plant yr ardal sydd efo cancr.

Gwyliwch y fideo byr isod i gael gwybod mwy am ein gwaith.