pic

Gwirfoddoli

Gafael Llaw

Gwirfoddolwyr ydi pawb sy’n ymwneud â elusen Gafael Llaw, ac mae’r ffaith yma yn rywbeth rydym yn hynod falch ohono sy’n sicrhau bod bob ceiniog yn mynd yn uniongyrchol i’r achos.

Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig gyda syniadau casglu arian fyddai’n gallu ein cynorthwyo gyda trefnu digwyddiadau a chynnig cefnogaeth yn ystod y digwyddiad. Er enghraifft stiwardio ein taith gerdded dan y lloer neu Ras Sion Corn Caernarfon.

Os oes gennych chi amser i roi i’r elusen ac eisiau gwneud gwahaniaeth, llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad gyda chi.