pic

Newyddion

Gafael Llaw

Tŷ Enfys yn agor ar ei newydd wedd


image

Heddiw (27 Tachwedd 2025) agorwyd bloc llety Tŷ Enfys yn Ysbyty Gwynedd yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu a moderneiddio sylweddol, diolch i nawdd elusen leol, Gafael Llaw.

Mae Tŷ Enfys yn floc llety ar gyfer rhieni a gwarchodwyr plant sydd yn derbyn gofal a thriniaeth am gyfnod estynedig yn Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd, yn cynnwys babanod sy’n derbyn gofal yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU). Mae’n caniatáu i rieni aros yn agos i’w plentyn heb y straeon o orfod teithio nol ac ymlaen.

...mwy

Diolch i RAOB, Ardudwy Lodge, Bermo


image

Mae Gare RAOB, Ardudwy Lodge, Talybont, Bermo wedi casglu swm anhygoel o £2000 i Gafael Llaw eleni.

...mwy

Ras Sion Corn Caernarfon 2024


image

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gefnogi’r digwyddiad! Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus dros ben. Dyma gasgliad o luniau….

...mwy

Gafael Llaw yn cefnogi Clinig Plant Ysbyty Gwynedd


image

Mae Gafael Llaw yn falch o fod wedi cyfrannu £5000 i Glinig Plant ysbyty Gwynedd i brynu uned synhwyraidd symudol.

...mwy

Diolch i’n holl gefnogwyr yn 2023


image

Mae’r gefnogaeth i Gafael Llaw wedi bod yn anhygoel unwaith eto eleni.

...mwy

Gafael Llaw yn ariannu ystafell newydd yn Ysbyty Alder Hey


image

Mae Gafael Llaw yn falch o fod wedi ariannu Ystafell Tynnu Sylw 4D newydd yn ysbyty plant Alder Hey, Lerpwl.

Cafodd 45K ei roi gan Gafael Llaw i Elusen Ysbyty Plant Alder Hey gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i greu’r ystafell arbennig sy’n tynnu sylw’r plant pan yn derbyn triniaeth ar y ward oncoleg.

...mwy

Gafael Llaw yw elusen y flwyddyn Encôr


image

Mae côr lleol o ardal Bangor wedi dewis Gafael Llaw fel un o’r elusennau y byddant yn casglu arian iddi am y flwyddyn, yn ogystal ag elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

...mwy

Tad yn casglu £2500 i Gafael Llaw


image

Yn ystod mis Chwefror, bu Paul Mark Williams o Gaernarfon yn rhedeg 5K bob dydd, am 31 diwrnod yn olynol gan gasglu £2500 i Gafael Llaw.

Bu merch Paul yn derbyn triniaeth i lid yr ymennydd rhai blynyddoedd yn ôl, ac ers hynny mae o’n codi arian i’r elusen drwy gyflawni amrywiaeth o sialensiau.

...mwy

Rhedeg ras rithiol Llundain i godi arian i Gafael Llaw


image

Nôl ym mis Hydref, cwblhaodd Karen Rees Roberts o Bwllheli farathon rhithiol Llundain, gan gasglu dros £4000 i ddwy achos teilwng: Gafael Llaw a Scope.

Mae Karen wedi bod yn casglu arian i elusennau ers blynyddoedd. Roedd hi wedi bod yn ymarfer ar gyfer Marathon Llundain oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Ebrill. Fel nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, cafodd ei ohirio oherwydd y pandemig coronafirws, gyda’r digwyddiad rhithiol yn cael ei gynnal ar 4 Hydref.

...mwy

Gafael Llaw yn rhoi ‘cefnogaeth hanfodol’ yn ystod y pandemig


image

Fe wnaeth cefnogaeth ariannol a ddarparwyd gan Gafael Llaw i Ysbyty Plant Alder Hey ar ddechrau’r pandemig alluogi cefnogaeth hanfodol barhau i gael ei ddarparu i gleifion canser yng ngogledd Cymru.

...mwy

Triniaeth leol i blant diolch i beiriant anadlu newydd


image

O ganlyniad i gefnogaeth hael a pharhaus Gafael Llaw mae peiriant anadlu newydd gwerth dros £6000 rŵan ar gael i gleifion ifanc Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd.

Roedd Gafael Llaw yn awyddus i gynnig cefnogaeth ychwanegol i’r ward yn ystod pandemig COVID-19. Bydd y peiriant yn allweddol bwysig i waith y ward, gan helpu babis a phlant ifanc sy’n dod i’r ysbyty gyda phroblemau anadlu.

...mwy

Golau Gwyrdd i ddau brosiect yn Ysbyty Alder Hey diolch i gefnogaeth Gafael Llaw


image

Mae Gafael Llaw yn falch o fod wedi gaddo hyd at £45,000 i gyllido dau brosiect pwysig yn Ysbyty Alder Hey.

Gweithiodd Gafael Llaw gydag Elusen Plant Alder Hey i gasglu syniadau gan staff yr ysbyty, ac o ganlyniad mae dau gynllun i gefnogi cleifion oncoleg yr ysbyty wedi cael sêl bendith gan Fwrdd Gafael Llaw.

...mwy

Staff Siemens yn mynd y filltir ychwanegol


image

Mae staff Siemens Healthineers yn Llanberis wedi llwyddo i gasglu swm anhygoel o £3,500 ar gyfer Gafael Llaw.

Enwebwyd yr elusen gan staff cangen Llanberis y cwmni rhyngwladol oedd yn awyddus i fod yn cefnogi elusen ar gyfer y flwyddyn. Yn dilyn pleidlais gan staff, dewiswyd Gafael Llaw.

...mwy

Ymwelwyr arbennig i Ward Dewi


image

Cafodd blant Ward y Plant, Ysbyty Gwynedd ymwelwyr arbennig dros y Nadolig diolch i garedigrwydd cwmni teledu Cwmni Da ac elusen Gafael Llaw.

...mwy

Adnoddau newydd Ward Dewi yn trawsnewid bywydau


image

Mae cwpwl o fisoedd ers i’r ystafell synhwyraidd newydd agor ar Ward y Plant, Ysbyty Gwynedd, diolch i gyfraniad o £120,000 gan Gafael Llaw.

Yn ogystal â chreu ystafell synhwyrau ar Ward Minffordd cafodd y cyfleusterau ystafell ymolchi ar Ward Dewi eu huwchraddio i fodloni anghenion plant sydd ag anableddau.

Mae’r adnoddau newydd yn barod yn cael effaith anhygoel ar fywydau’r plant sy’n treulio amser ar y ward.

Cysylltodd Nerys gyda ni i ddiolch ac i rannu stori Bedwyr, ei mab.

...mwy

Ystafell synhwyrau newydd a gwell cyfleusterau ystafell ymolchi ar gyfer Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd


image

Bydd cleifion ifanc sy’n ymweld â Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd yn awr yn elwa o ystafell synhwyrau newydd diolch i rodd hael gan Gafael Llaw, elusen leol.

...mwy

Cynlluniau ar gyfer ystafell synhwyraidd newydd a gwell cyfleusterau ystafell ymolchi ar gyfer Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd


image

Mae gwaith ar fin dechrau ar Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r cleifion ieuengaf yn yr ysbyty.

Gwnaed y prosiect £154,000 yn bosibl drwy’r elusen leol yng Nghaernarfon, Gafael Llaw, sydd wedi rhoi £85,000 yn hael iawn tuag at y datblygiad.

Bydd y gwaith yn cynnwys gwella’r cyfleusterau ystafell ymolchi ar Ward Dewi i gwrdd ag anghenion plant gydag anableddau.

...mwy

Cerdded dan y lloer 2018


image

Diolch i bawb ddaeth i gerdded dan y lloer yng Nghaernarfon diwedd mis Medi. Roedd hi’n noson lwyddiannus iawn gyda tua 300 o bobl yn cymryd rhan yn y daith 10K o amgylch y dref a dros y foryd dan olau’r lloer.

...mwy

Heriau enfawr Paul a Paul


image

Diolch o waelod calon i Paul Mark Williams a Paul Ellis Owen am eu hymdrechion diweddar i godi arian ar ein rhan.

...mwy

Ras Hwyl Llandegfan 2019


image

Diolch enfawr i bawb roedd yn rhan o Ras Hwyl Llandegfan - bydd pob ceiniog yn mynd tuag at helpu plant â chanser yng Ngogledd Cymru.

...mwy

£14,000 wedi’i gasglu gan bedwar arwr


image

Mae pedwar ffrind wedi teithio o amgylch y DU mewn cwch ‘rib ride’ 8.75m i gasglu arian ar ein cyfer.

Dim ond wyth diwrnod gymerodd i Mark Hickman, Ross Hickman, Mark Overend a John Leek o Ynys Môn i gwblhau’r sialens 2,000 milltir.

...mwy

Diwrnod golff yn casglu £2,000


image

Diolch mawr i Gareth Williams a Trevor Hughes o Blas Garnedd, Llanfair am drefnu diwrnod golff elusennol yn Henllys ar ran Gafael Llaw. Hwn yw’r 7fed flwyddyn yn olynol iddyn nhw drefnu’r math o ddigwyddiad, gyda gwahanol elusennau yn elwa - dros 100 o bobl wedi cystadlu eleni.

...mwy

Gafael Llaw yn rhoi help llaw i Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd


image

Talodd meddygon a nyrsys ar Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd deyrnged i Gafael Llaw, elusen leol, mewn digwyddiad o ddiolchgarwch arbennig ar y ward.

Ers ei sefydlu ym Mehefin 2013, mae Gafael Llaw wedi codi £150,000 i gefnogi plant lleol â chanser. Yn ogystal â chefnogi cyfleusterau newydd a llyfrgell Gymraeg yn Ysbyty Alder Hey, mae’r elusen wedi cyfrannu £20,000 at ariannu gweithgareddau a digwyddiadau a drefnwyd i deuluoedd a effeithiwyd gan ganser plentyndod.

...mwy

Diolch i bobl Port


image

Rydym wedi derbyn cyfraniad hael iawn o £750 yn ddiweddar gan Stan Roberts a Jimmy Havelock o Borthmadog, er cof am Kristian Roberts.

...mwy

Gŵyl fwyd Caernafon yn lwyddiant mawr


image

Roedd gan Gafael Llaw stondin yng Ngŵyl fwyd Caernarfon eleni. Diolch i’r trefnwyr am y cyfle a diolch i bawb ddaeth draw i ddweud helo a chefnogi’r elusen – caglwyd bron iawn i £500.

Diolch arbennig i Endaf yn siop chips J&C a Sam yn siop ffonau Pool Street am y trydan a dŵr ar gyfer y stondin. A diolch i Caffi Cei, Carlton, Morissons a Becws Cwm y glo am roi cyfraniad o gacennau a nwyddau te a choffi i Gafael Llaw.

...mwy

Elusen y flwyddyn Clwb pêl-droed Caernarfon


image

Mae Clwb pêl-droed Caernarfon yn falch iawn o gyhoeddi eu elusen swyddogol ar gyfer 2017, sef elusen Gafael Llaw.

...mwy

Ras Sion Corn Caernarfon 2016


image

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gefnogi’r digwyddiad! Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn!

Dyma gasgliad o luniau….

...mwy

Cwmni lleol yn cefnogi elusen leol


image

Mae gwefan newydd elusen Gafael Llaw wedi caei ei lawnsio’n ddiweddar, diolch i gefnogaeth gan gwmni dylunio gwefannau Delwedd o Gaernarfon.

...mwy

Diwrnod golff yn casglu £5,000


image

Cynhaliwyd diwrnod golff llwyddiannus iawn yng nglwb golff St. Deiniol, Bangor gyda £5,000 yn cael ei gasglu.

Cystadlodd dros 140 o olffwyr dros 18 twll, gyda’r elw i gyd yn mynd at yr elusen. Yr enillwyr oedd Maldwyn Jones, Steven Morris, Dafydd Pritchard a Kevin Roberts gyda sgôr o 108 pwynt. Roedd y gwobrau’n cynnwys titleist, vokey, wedges, penwythnos golff i ddau yn Iwerddon a pheli golff Pro V1.

...mwy

Haf llwyddiannus


image

Unwaith eto eleni, mae elusen lleol Gafael Llaw a chefnogwyr yr elusen wedi bod yn brysur yn casglu arian dros yr haf.

Cynhaliwyd taith gerdded lwyddiannus i ben Yr Wyddfa ar ddydd Sadwrn braf ym mis Gorffennaf. Daeth nifer o bobl ar y daith i ben y copa i ddangos eu cefnogaeth i’r elusen, a drwy ffurflenni noddi, bwcedi arian a gwerthu bwyd yng nghaffi Hanner Ffordd casglwyd dros £1,000.

...mwy