Diolch i’n holl gefnogwyr yn 2023
Gafael Llaw
Mae’r gefnogaeth i Gafael Llaw wedi bod yn anhygoel unwaith eto eleni.
Dechreuodd y flwyddyn gyda chyfraniad o dros £10,000 gan griw cadw’n heini Madog Pop-up fitness. Casglodd y criw y swm anhygoel drwy ymgymryd a her ym mis Hydref 2022 i gerdded 75KM mewn 24 awr o Borthmadog i Aberdaron. Ac roedd hi’n dipyn o gamp hefyd!
Derbyniwyd £10,000 arall gan griw Beicwyr Llŷn, fu’n casglu arian i Gafael Llaw (eu helusen ar gyfer y flwyddyn) drwy gyfres o ddigwyddiadau, yn cynnwys ocsiwn a thaith feics o amgylch Gwynedd.
Daeth £5000 i law gan Gylch Meithrin Penrhosgarnedd a £6500 gan griw o Gaernarfon fu draw yn Everest yn cerdded am dair wythnos (yn cynnwys aelodau o fwrdd Gafael Llaw, Ange, Dave Gel a Keith Nebo).
Diolch hefyd i: Ignite procurement, Donna Taylor o Lanrug, teulu Kit Jones, teulu Buddug Anwyl Jones, teulu Glenys Williams, Paul Williams ac Aaron, Iwan Alun o Groeslon ac Encôr, Bangor. Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau a rhoddion caredig.
Mae pob cyfraniad yn werthfawr ac yn helpu Gafael Llaw i gefnogi plant a theuluoedd o ogledd Cymru sy’n byw efo cancr. Diolch o galon a blwyddyn newydd dda.
![]() |
![]() |
![]() |