pic

Diwrnod golff yn casglu £5,000

Gafael Llaw

Cynhaliwyd diwrnod golff llwyddiannus iawn yng nglwb golff St. Deiniol, Bangor gyda £5,000 yn cael ei gasglu.

Cystadlodd dros 140 o olffwyr dros 18 twll, gyda’r elw i gyd yn mynd at yr elusen. Yr enillwyr oedd Maldwyn Jones, Steven Morris, Dafydd Pritchard a Kevin Roberts gyda sgôr o 108 pwynt. Roedd y gwobrau’n cynnwys titleist, vokey, wedges, penwythnos golff i ddau yn Iwerddon a pheli golff Pro V1.

Cynhaliwyd ocsiwn yn y nos gyda’r arwerthwr Dafydd Hardy, a gwerthwyd nifer o eitemau yn cynnwys menig taekwondo wedi eu arwyddo gan enillydd medal aur y gemau Olympaidd, Jade Jones a chrys hyfforddi wedi ei arwyddo gan y WRU.

Dywedodd Huw Hardy, trefnydd y digwyddiad:

“Diolch yn fawr i bobl Bangor am wneud y digwyddiad yn un mor llwyddiannus. Rwyf yn ddiolchgar iawn i bob busnes ac unigolyn sydd wedi ein cefnogi. Cafodd gwobrau eu cyfrannu gan fusnesau lleol, clybiau golff cyfagos a mor bell ag Iwerddon. Rwyf yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi a helpu mewn unrhyw ffordd. Cafodd y digwyddiad ei fwynhau’n fawr gan bawb, roedd y cwrs mewn cyflwr perffaith diolch i’r staff, a daeth yr haul allan i wenu. Fysa ni ddim wedi gallu gofyn am ddiwrnod gwell.”

— Huw Hardy

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd yr elusen:

“Rydym yn lwcus iawn fel elusen o gael tîm o wirfoddolwyr ymroddgar. Mae Huw wedi gweithio’n galed iawn i drefnu’r digwyddiad; o gasglu arian noddi gan fusnesau lleol i drefnu’r gwobrau a’r ocsiwn gyda’r nos. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddo, ac i’r gwirfoddolwyr fu’n helpu’n ystod y diwrnod. Bydd yr arian sy’n cael ei gasglu yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod plant a phobl ifanc lleol sy’n dioddef o gancr yn derbyn y driniaeth a’r gofal gorau posib.”

— Iwan Trefor Jones, Cadeirydd yr elusen