pic

Tad yn casglu £2500 i Gafael Llaw

Gafael Llaw

Yn ystod mis Chwefror, bu Paul Mark Williams o Gaernarfon yn rhedeg 5K bob dydd, am 31 diwrnod yn olynol gan gasglu £2500 i elusen Gafael Llaw.

Bu merch Paul yn derbyn triniaeth i lid yr ymennydd rhai blynyddoedd yn ôl, ac ers hynny mae o’n codi arian i’r elusen drwy gyflawni amrywiaeth o sialensiau.

Dywedodd Paul: “Roeddwn i wedi bwriadu gwneud sialens yn y mynyddoedd yn ystod haf 2020 yn wreiddiol, ond yn sgil Covid roedd hi’n amhosib gallu hyfforddi ar ei chyfer. Felly nes i benderfynu meddwl am rywbeth oedd yn bosib i fi ei wneud yn ystod y cyfnod clo yma a meddwl bod rhedeg 5K y dydd yn rhywbeth realistig y gallwn ei gyflawni. Nes i fwynhau’r sialens, er ambell ddiwrnod o dywydd difrifol a phoenau yn fy mhen glin erbyn y dyddiau diwethaf.

“Y peth anoddaf oedd ffeindio’r amser i redeg bob dydd. Rhwng gweithio’n llawn amser, edrych ar ôl y plant a fy ngwaith efo’r Gwasanaeth Tân.

“Roedd o’n dda gweld fy amser yn gwella bob dydd, a gweld yr arian yn cynyddu wrth i bob diwrnod basio. Fedrai ddim diolch digon i’r gymuned. Dwi methu coelio gymaint o gefnogaeth ges i, mae pobl wedi bod mor hael, hyd yn oed mewn pandemig. Dwi’n arbennig o ddiolchgar i gefnogwyr a thîm hyfforddi Caernarfon Town. Fe wnaeth fy mab Ceian redeg efo fi ar y diwrnod olaf, ac roedd hynny’n braf.”

Sefydlwyd Gafael Llaw gan griw o ffrindiau yn 2013 i gefnogi plant a phobl ifanc o Wynedd a Môn sydd efo cancr. Mae’r arian sy’n cael ei gasglu’n uniongyrchol gan yr elusen a’i chefnogwyr yn mynd tuag at well cyfleusterau a gwasanaethau i blant.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Llongyfarchiadau i Paul ar gwblhau’r sialens. Mae Paul wedi bod yn hynod o weithgar yn casglu arian i Gafael Llaw dros y blynyddoedd, ac mae wedi parhau gyda’i ymdrechion mewn cyfnod heriol.

“Bydd yr arian yma’n cael ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau yn Ward Dewi. Rydym yn trafod cynlluniau gyda’r Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd i ariannu offer a chyfleusterau newydd ar y ward. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gydag ysbyty Alder Hey ac wedi cyllido 15 gliniadur newydd i staff ac wedi ariannu ystafell 4D newydd i’r cleifion, fydd gobeithio yn cael ei adeiladu eleni.

“Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i’r sector elusen, ond diolch i bobl fel Paul rydym wedi gallu parhau i gefnogi’r GIG mewn cyfnod allweddol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Paul ac i’r gymuned.”

image image image