Gafael Llaw yn cefnogi Clinig Plant Ysbyty Gwynedd
Gafael Llaw
Mae Gafael Llaw yn falch o fod wedi cyfrannu £5000 i Glinig Plant ysbyty Gwynedd i brynu uned synhwyraidd symudol.
Mae’r Uned yn cynnwys llawer o bethau hwyliog i ddiddanu’r plant sy’n derbyn triniaeth yn y clinig. Fel goleuadau, taflunydd a drych arbennig.
Dywedodd staff y Clinig: “Diolch o waelod calon i Gafael Llaw ac i bawb sy’n casglu arian i’r elusen am y rhodd hael hwn. Bydd y troli newydd yn gwneud gymaint o wahaniaeth i ni mewn sawl math o sefyllfaoedd.”
