pic

£14,000 wedi’i gasglu gan bedwar arwr

Gafael Llaw

Mae pedwar ffrind wedi teithio o amgylch y DU mewn cwch ‘rib ride’ 8.75m i gasglu arian ar ein cyfer.

Dim ond wyth diwrnod gymerodd i Mark Hickman, Ross Hickman, Mark Overend a John Leek o Ynys Môn i gwblhau’r sialens 2,000 milltir.

Dywedodd Mark Hickman o Fae Trearddur: “Ein targed cychwynnol oedd i gasglu £5,000 ond rydym erbyn hyn wedi derbyn £14,500 o arian noddi, sy’n wych.

“Roeddem wedi gosod targed o naw diwrnod i gwblhau’r sialens, ond cafodd y sialens ei chwblhau mewn wyth diwrnod. Y rhan anoddaf o’r siwrnai oedd o Ynysoedd Orkney i Caeredin mewn gwyntoedd cryfion a niwl trwchus. Roeddem yn rhedeg allan o danwydd a mi dorrodd sbardun y gwch. Diolch yn fawr iawn i’r criw o Dover wnaeth ddod a sbardun newydd i ni.”

Cafodd y sialens ‘Mayles Aweigh’ ei gyllido o bocedi y dynion eu hunain.

Bydd yr arian sydd wedi ei gasglu yn mynd tuag at ein prosiect mawr nesaf, sef i adeiladu ystafell synhwyraidd newydd yn Ward Dewi Ysbyty Gwynedd i ddarparu cyfle i blant a’u teuluoedd i chwarae mewn awyrgylch saff a chyfforddus.

Ychwanegodd Mark: “Rydym yn falch iawn o fod yn chwarae ein rhan i gefnogi elusen leol wych. Mae Gafael Llaw eisoes wedi casglu llawer o arian i gefnogi plant o’r ardal efo cancr a dwi wrth fy modd bod ni’n gallu cyfrannu at hyn.”

Diolchodd Mark hefyd wrth Ventilair UK am noddi gost y tanwydd.

Dywedodd ein Cadeirydd, Iwan Trefor Jones: “Rydym wrth ein boddau efo’r cyfraniad ac yn diolch o galon iddynt am eu hymdrechion.

“Mae cancr yn anffodus yn cyffwrdd bywydau nifer o bobl yng Ngwynedd ac rydym yn benderfynol o gasglu mwy o arian i gefnogi plant a phobl ifanc o’r ardal sy’n dioddef.”

image image image