pic

Cwmni lleol yn cefnogi elusen leol

Gafael Llaw

Mae gwefan newydd elusen Gafael Llaw wedi caei ei lawnsio’n ddiweddar, diolch i gefnogaeth gan gwmni dylunio gwefannau Delwedd o Gaernarfon.

Bob blwyddyn mae Delwedd yn dylunio, adeiladu a chynnal o leiaf un gwefan yn rhad ac am ddim i fudiad neu achos da lleol ac yn parahu i gefnogi a chynnal y wefan yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Eleni, dewiswyd elusen Gafael Llaw.

Mae Gafael Llaw yn elusen leol o Gaernarfon wedi ei sefydlu i gefnogi plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn gyda cancr.

Dywedodd Ceri Roberts o gwmni Delwedd: “Rydym yn edmygu yn fawr gwaith da Gafael Llaw yn codi arian i gefnogi plant gyda chanser a’u teuluoedd. Mae Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey ac elusen Clic Sargent mor bwyisg i’r teuluoedd yma ac mae Gafael Llaw yn gwario’r arian sy’n cael ei gsaglu yn ddoeth er mwyn ceisio gwella pethau iddynt.

“Roedd hi’n bleser cael y cyfle i fod yn rhan fach o’r gwaith pwysig mae Gafael Llaw yn ei wneud, ac yn gobeithio y bydd y wefan yn gymorth iddynt rannu gwybodaeth, denu gwirfoddolwir a chodi arian i’w hachos teilwng iawn.”

Mae gwefan newydd Gafael Llaw yn ddeiniadol, yn ymatebol ac yn ddwyieithog. Bydd yn blatfform i’r elusen ddenu mwy o gefnogaeth, canfod gwirfoddolwyr newydd ac hyrwyddo eu gweithgareddau casglu arian. Bydd hefyd yn gyfrwng pwysig ar gyfer dangos ble a sut mae’r arian sydd wedi cael ei gaslu’n cael ei wario.

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd elusen Gafael Llaw: “Rydym yn hynod ddiolchgar i gwmni Delwedd am y gwaith a’r gwasanaeth proffesiynol mae nhw wedi ei gynnig i ni yn rhad ac am ddim. Gwirfodolwyr ydi pawb sy’n gwneud gwaith i’r elusen, sy’n sicrhau bod pob ceiniog yn mynd yn syth at yr achos, felly mae derbyn cefnogaeth fel hyn gan gwmni fel Delwedd yn werthfawr iawn i ni.

“Ers sefydlu’r elusen rydym wedi mynd o nerth i nerth, ac o ganlyniad i gefnogaeth anhygoel a gwaith caled ein gwirfoddolwyr rydym wedi casglu £150,000 dros dair blynedd i wella’r driniaeth a’r adnoddau sydd ar gael i blant a phobl ifanc Gwynedd a Môn gyda chancr. Mae’r wefan newydd yn mynd i fod yn adnodd gwych i ni i’r dyfodol.”