pic

Staff Siemens yn mynd y filltir ychwanegol

Gafael Llaw

Mae staff Siemens Healthineers yn Llanberis wedi llwyddo i gasglu swm anhygoel o £3,500 ar gyfer Gafael Llaw. Enwebwyd yr elusen gan staff cangen Llanberis y cwmni rhyngwladol oedd yn awyddus i fod yn cefnogi elusen ar gyfer y flwyddyn. Yn dilyn pleidlais gan staff, dewiswyd Gafael Llaw.

Yn ystod 2019, aeth Jo Jarrett, Debra Drake a Paul Williams ati gyda chefnogaeth eu cyd-weithwyr i drefnu gwahanol weithgareddau i godi arian. O drefnu bore gwerthu cacennau a llyfrau i daith gerdded epig gan 10 aelod o staff o gopa’r Wyddfa i gastell Caernarfon.

Dywedodd Yr Athro Dr. Fraser Logue Is-lywydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Siemens Healthineers: “Roedd ein staff wedi cael eu hysbrydoli gan y gwaith gwych sy’n cael ei gyflawni gan Gafael Llaw. Fe wnaeth gwaith yr elusen leol hon wthio pobl ymlaen i gopa mynyddoedd mewn tywydd caled a dangos i ni pwy yw’r cogyddion yn ein plith. Dwi’n hynod o falch o’r arian mae ein staff wedi llwyddo i’w gasglu ar gyfer achos mor deilwng.

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Fedrwn ni ddim diolch digon wrth staff Siemens Healthineers am eu hymdrechion rhyfeddol i gasglu’r arian. I safle sy’n cyflogi 400+ staff mae’n swm anhygoel o arian.

“Fel elusen rydym yn lwcus iawn o gael cefnogaeth cwmnïau fel Siemens Healthineers a chael pobl sy’n codi arian ar ein rhan, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr fod nhw wedi dewis Gafael Llaw. Mae’r ffaith na staff oedd yn dewis drwy bleidlais yn ei wneud yn arbennig iawn a phleser oedd gweld brwdfrydedd, penderfyniad a chymhelliant staff i fynd ati i drefnu’r holl ddigwyddiadau.

“Yn ddiweddar rydym wedi ariannu ystafell synhwyraidd newydd a pheiriant anadlu i Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd. Gyda pharhad cefnogaeth cwmnïau fel Seimens yn Llanberis mi fyddwn ni’n gallu cyflawni gymaint i sicrhau bod pant Gwynedd a Môn efo cancr yn derbyn y driniaeth a’r gwasanaethau gorau yn lleol.”