pic

Diolch i RAOB, Ardudwy Lodge, Bermo

Gafael Llaw

Diolch yn fawr i RAOB, Ardudwy Lodge, Bermo am eich ymdrechion i gasglu arian i Gafael Llaw.

Dyma Gareth yn cyflwyno siec o £2000 i aelodau’r pwyllgor. Yr arian wedi’i gasglu trwy gyfres o ddigwyddiadau Nadoligaidd yn ardal Ardudwy llynedd.

Diolch o galon i’r criw am ddewis Gafael Llaw fel ei elusen, ac i bawb o’r ardal leol am gefnogi. Bydd yr arian yma yn helpu i wella cyfleusterau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc Cymru efo cancr.