pic

Golau Gwyrdd i ddau brosiect yn Ysbyty Alder Hey diolch i gefnogaeth Gafael Llaw

Gafael Llaw

Mae Gafael Llaw yn falch o fod wedi gaddo hyd at £45,000 i gyllido dau brosiect pwysig yn Ysbyty Alder Hey.

Gweithiodd Gafael Llaw gydag Elusen Plant Alder Hey i gasglu syniadau gan staff yr ysbyty, ac o ganlyniad mae dau gynllun i gefnogi cleifion oncoleg yr ysbyty wedi cael sêl bendith gan Fwrdd Gafael Llaw.

Bydd y cynllun cyntaf yn ymateb i pandemig COVID-19 i ddigideiddio gwasanaethau i gleifion allanol. Bydd Gafael Llaw yn cyllido 15 gliniadur ar gyfer staff oncoleg, fydd yn eu galluogi i barhau i gynnal apwyntiadau gyda chleifion bregus o’u cartrefi.

Bydd yr ail brosiect yn cyllido ystafell ymlacio / tynnu sylw 4D yn yr ysbyty. Bydd ystafell driniaeth yn cael ei ail-wneud gydag ystod eang o dechnoleg tynnu sylw pwrpasol yn cael eu gosod. Bydd hyn yn cynnwys finyls, taflunyddion, goleuadau a llawer mwy. Bydd yr ystafell yn cael effaith gadarnhaol ar gleifion oncoleg yr ysbyty sydd yn aml yn wynebu triniaeth drawmatig drwy dynnu eu sylw at bethau tawel i’w ymlacio. Bydd y gwaith yn dechrau mor fuan â phosib.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: “Dwi wrth fy modd ein bod ni’n gallu cynnig y gefnogaeth yma i Alder Hey mewn cyfnod heriol a hanfodol. Mae cyn bwysiced ag erioed ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r GIG.

“Mae’r ddau brosiect yma yn hynod o bwysig a gwerthfawr i fod yn cefnogi plant a phobl ifanc o ogledd Cymru, ac rydym yn hyderus y byddant yn gwella’r profiad i’r rhai sy’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty – sef wrth gwrs nod ein helusen.

“Hoffwn gydnabod cefnogaeth a chydweithrediad staff yr ysbyty a staff elusen Alder Hey i symud y prosiectau yma yn eu blaen. Mae hi’n amser anodd a heriol i bawb, ac rydym yn gwerthfawrogi eu hymdrechion. Mae’r diolch hefyd i bob unigolyn, teuluoedd, cymunedau a chwmnïau sydd yn casglu arian i Gafael Llaw – byddai’r prosiectau yma ddim yn bosib heb eich ymdrechion a’ch cefnogaeth chi.”

Ychwanegodd Fiona Ashcroft, Prif Swyddog Gweithredol Elusen Plant Alder Hey: “Mae elusen plant Alder Hey mor ddiolchgar i Gwrdd Gafael Llaw a pob un o’u cefnogwyr am yr arian sydd wedi cael ei roi i ni. Bydd y buddion i’n cleifion ifanc a’u teuluoedd yn anferth, yn enwedig yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

“Rydym yn hynod o falch o’n cysylltiad agos i Gymru ac yn darparu gofal i nifer o blant a phobl ifanc o Gymru pob blwyddyn. Bydd y gwasanaeth oncoleg ddigidol sydd nawr ar gael i gleifion allanol yn helpu ni gario mlaen i ofalu amdanynt ac yn lleihau’r trafaelio pell i nifer gan fod help arbenigol Alder Hay rŵan ar gael o’u cartrefi.

“Heb gefnogaeth Gafael Llaw, ni fyddai’n bosib i ni fod yn cynnig y gwasanaethau a’r profiadau hyn i’n cleifion oncoleg mor sydyn, a hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn wrth bob un ohonynt.”